-

Cymru: Arolwg busnes 2024

Cyfleoedd buddsoddi disglair

To read this page in English click here

Wrth i’r amgylchedd gwleidyddol setlo, cyfraddau’n dechrau llacio, a chwyddiant yn arafu, disgwyliwn weld busnesau ledled Cymru yn ymateb gyda mwy o optimistiaeth a bwriad i fuddsoddi.

Greer Hooper & Tim Virgo

Cyd-benaethiaid Corfforaethol Canolig, Cymru, Bancio Corfforaethol Barclays

Y darlun ehangach yng Nghymru

Dywed 61% o’r busnesau a holwyd eu bod yn gwneud cynnydd neu wedi cyflawni eu nod o ran datblygu eu busnes.

Teimla 35% o ymatebwyr mai rheolau a rheoliadau oedd y rhwystr mwyaf i ehangu.

Dywed 57% o’r busnesau a holwyd yng Nghymru mai cynnydd mewn costau yw’r her fwyaf i’w busnes.

Yn ôl ein hymchwil diweddar a gynhaliwyd ar y cyd â News UK*, mae 47% o’r ymatebwyr a holwyd ledled Cymru yn hyderus yn eu gallu i dyfu eu busnes – er bod hyn ychydig yn is na chyfartaledd y Deyrnas Unedig o 55%. Mae’r un ganran yn hyderus yn eu gallu i gael gafael ar arian i gefnogi twf, ond dim ond 39% sy’n dweud bod ganddynt hyder ym marchnad gyffredinol y Deyrnas Unedig.

Dywed busnesau yng Nghymru eu bod yn poeni fwyaf am gynnydd mewn costau (57%), ac yna'n pryderu ynghylch recriwtio a chadw staff (49%).

Mae gan ychydig dros hanner (55%) yr ymatebwyr yng Nghymru gynlluniau i ehangu yn ystod y 12 mis nesaf. Er bod arweinwyr busnes ar draws y Deyrnas Unedig ehangach yn dweud mai diffyg mynediad at gyllid yw eu rheswm mwyaf cyffredin dros beidio ag ehangu, nododd arweinwyr busnes Cymru reolau a rheoliadau (35%) fel y rhwystr mwyaf cyffredin i ehangu.

Yn galonogol, mae 61% o’r busnesau a holwyd yng Nghymru yn gwneud cynnydd neu wedi cyflawni eu nodau o ran datblygu eu busnes yn ehangach drwy arloesi technolegol neu arallgyfeirio, ac mae 51% yn bwriadu buddsoddi mewn strategaethau newydd dros y 18 mis i 2 flynedd nesaf.

Yn dilyn sawl blwyddyn o ansicrwydd a chostau cynyddol, gobaith busnesau yw y bydd y llywodraeth newydd yn dod â sefydlogrwydd a buddsoddiad. Wedi dweud hynny, efallai y bydd rhywfaint o gyndynrwydd cychwynnol wrth i fusnesau aros i weld pa newidiadau a pholisïau newydd a gyflwynir. Er enghraifft, a fydd newidiadau’n cael eu gwneud i’r rhaglen Freeport, sy’n cynnig cyfleoedd i harneisio potensial economaidd Cymru, annog buddsoddiad a hybu creu swyddi? Bydd denu mewnfuddsoddiad a pholisïau sy’n cefnogi mwy o weithgarwch economaidd a chynhyrchiant yn allweddol i dwf hirdymor yn y rhanbarth.

Greer Hooper

Cyd-bennaeth Corfforaethol Canolig, Cymru, Bancio Corfforaethol Barclays

Recriwtio a chadw talent

Gyda recriwtio a chadw talent yn ffactor allweddol mewn perfformiad a thwf busnes, mae’n wych gweld bod naw o bob deg busnes yn credu bod datblygu sgiliau staff i ddiwallu anghenion y dyfodol yn flaenoriaeth, a bod gan dri chwarter raglenni datblygu staff ar waith.

“Mae dod o hyd i ffyrdd o ddenu a chadw staff yn allweddol i lwyddiant busnes. Ar wahân i roi rhaglenni datblygu a hyfforddi staff ar waith, efallai y bydd busnesau hefyd am ganolbwyntio ar les gweithwyr, dilyniant gyrfa a chynnig y buddion cywir i staff,” meddai Greer.

Mae ein sgyrsiau gyda chleientiaid yn awgrymu y gall yr her recriwtio fod yn dechrau lleddfu ar draws y rhanbarth. Mae buddsoddiad parhaus mewn diwydiannau anhraddodiadol, megis prosiectau ESG a thechnolegau sy'n datblygu, yn gofyn am wahanol setiau sgiliau, a allai ddod â chyfleoedd newydd. Gall busnesau Cymru hefyd elwa o’r duedd barhaus o weithio hybrid a mwy o ffocws ar ddewisiadau'n ymwneud â ffordd o fyw, sy’n galluogi mwy o bobl i aros yng Nghymru, neu symud i Gymru.

Tim Virgo

Cyd-bennaeth Corfforaethol Canolig, Cymru, Bancio Corfforaethol Barclays

Cofleidio trawsnewid digidol yng Nghymru

Mae 64% o ymatebwyr yn defnyddio data i wneud dewisiadau gwell.

Mae 65% o'r busnesau a holwyd wedi dechrau neu wedi cwblhau rhaglenni trawsnewid digidol.

Mae 58% o'r rhai a holwyd yn croesawu trawsnewid digidol drwy weithio o bell.

Drwy symleiddio gweithrediadau, hyrwyddo effeithlonrwydd cost a sbarduno arloesedd, mae digideiddio'n ffactor allweddol sy'n galluogi twf a llwyddiant busnes. Ymddengys bod yr arweinwyr busnes a holwyd yng Nghymru yn cytuno, gydag wyth o bob deg yn nodi trawsnewid digidol fel blaenoriaeth twf.

Dywed ychydig dros hanner (51%) yr ymatebwyr busnes eu bod yn gweithredu rhaglenni trawsnewid digidol ar hyn o bryd – mae 14% wedi cwblhau eu rhaglenni (dwbl y cyfartaledd cenedlaethol). Mae dwy ran o dair (64%) o gwmnïau Cymru yn defnyddio data i wneud dewisiadau gwell (yn uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol o 58%), 58% ar gyfer gweithio o bell, a 52% i wella gwasanaeth cwsmeriaid gan ddefnyddio teclyn(nau) digidol.

Mae llawer o fusnesau Cymreig yn gwerthfawrogi pwysigrwydd technoleg. Nid yw’n syndod felly bod canran uchel (73%) o’r busnesau a holwyd yn dweud eu bod yn deall y rôl y gall data ei chwarae wrth ymateb i ymddygiadau defnyddwyr a gwella profiadau defnyddwyr – ac mae 67% yn teimlo bod eu busnes yn barod i wneud hyn.

Deallusrwydd Artiffisial

Gyda deallusrwydd artiffisial (AI) yn dod i’r amlwg fel hwylusydd allweddol posibl ar gyfer twf busnes yn y dyfodol, mae Cymru unwaith eto ar y blaen i’r cyfartaledd cenedlaethol, gyda 18% o’r busnesau a arolygwyd yn dweud eu bod eisoes yn defnyddio AI. Efallai y bydd y rhai nad ydynt wedi defnyddio AI eto am ddechrau ystyried y rôl y gallai ei chwarae yn eu penderfyniadau busnes a strategol. Mae hyn yn cynnwys meddwl am sut i oresgyn y prif rwystrau a nodwyd gan ein hymchwil: bylchau sgiliau gweithwyr (27%), methu â deall manteision Deallusrwydd Artiffisial (25%), a pheidio â’i weld fel blaenoriaeth busnes (25%).

Mae’r sector technoleg yng Nghymru yn parhau i dyfu’n gyflym, ac mae’n dda gweld cwmnïau’n gweithio i wneud y mwyaf o gyfleoedd ym maes trawsnewid digidol, deallusrwydd artiffisial a thechnolegau eraill sy’n dod i’r amlwg. Mae eu gwytnwch yn profi ei werth mewn amgylchedd ariannu heriol. Cynyddodd buddsoddiad ecwiti o 8.74% yn 2023, sy'n cymharu'n ffafriol â'r gostyngiad cenedlaethol cyfunol o 27.2%**.

Tim Virgo

Cyd-bennaeth Corfforaethol Canolig, Cymru, Bancio Corfforaethol Barclays

Y daith gynaliadwyedd yng Nghymru

Dim ond 39% o’r rhai a holwyd yng Nghymru sy’n dweud eu bod naill ai’n gyfarwydd â'r Amgylchedd, Cymdeithasol a Llywodraethu (ESG) neu’n ei ddeall yn dda iawn, fel pwnc busnes – dywed 32% arall eu bod yn ymwybodol ohono. Fframwaith yw ESG sy’n helpu busnesau i ddeall a mesur eu heffaith ar gymdeithas, yr amgylchedd a pha mor dryloyw ac atebol y maent.

Gyda buddsoddwyr, cwsmeriaid a gweithwyr yn disgwyl fwyfwy i gwmnïau ddangos eu hymrwymiadau ESG, gall fod yn ystyriaeth bwysig i bob busnes. O ystyried bod 27% o ymatebwyr wedi dweud nad oeddent erioed wedi clywed am ESG, dyma faes y gall arweinwyr busnes ledled Cymru ddymuno talu mwy o sylw iddo.

O'r 71% sydd ag o leiaf rhywfaint o ymwybyddiaeth o ESG, dywed 22% fod ganddynt ddull ESG sefydledig ar waith; Mae 39% yn y broses o ddatblygu neu weithredu eu strategaethau. Mae hyn yn newyddion da: gallai strategaeth wedi ei diffinio’n dda sy’n cyd-fynd â gofynion rheoleiddio helpu busnesau i liniaru risg, gwella eu henw da, a chryfhau perthynas â rhanddeiliaid.

Cyllid yw’r rhwystr mwyaf o bell ffordd i fuddsoddiad mewn prosiectau sy’n canolbwyntio ar ESG ar gyfer busnesau yng Nghymru, yn ôl ein harolwg, gyda 35% yn nodi diffyg arian ar gyfer buddsoddi (sy’n sylweddol uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol o 23%).

Er gwaethaf pryderon am gyllid, mae 78% o'r rhai a holwyd yn dweud eu bod yn debygol o fuddsoddi mewn cynaliadwyedd drwy leihau eu gwastraff dros y ddwy flynedd nesaf. Mae rheolaeth gynaliadwy ar y gadwyn gyflenwi hefyd yn faes ffocws allweddol i 71% o fusnesau – yn fwy felly nag yn genedlaethol, lle mae’r cyfartaledd yn 61%. Ar ben hynny, mae 69% yn debygol o fuddsoddi mewn hyfforddiant i'w gweithwyr ynghylch cynaliadwyedd a 61% mewn technoleg hinsawdd (technolegau sy’n canolbwyntio’n benodol ar leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr neu fynd i’r afael ag effeithiau cynhesu byd-eang). Mewn cymhariaeth, dim ond 51% sy'n dweud eu bod yn bwriadu ymchwilio i ynni adnewyddadwy.

Siaradwch â ni os yw eich busnes yn chwilio am ffyrdd o ariannu ei strategaeth gynaliadwyedd. Rydym wedi ymrwymo i gefnogi busnesau Cymru â’r cyllid a’r cyngor sydd angen arnynt i gwrdd â’r heriau ac eraill. Er enghraifft, mae Academi Cynaliadwyedd Barclays yn cefnogi cleientiaid i wella'u dealltwriaeth o'u taith ESG ac i uwchsgilio eu staff i ddiwallu eu hanghenion amrywiol.

Greer Hooper

Cyd-bennaeth Corfforaethol Canolig, Cymru, Bancio Corfforaethol Barclays

Cysylltwch
CYSYLLTWCH Â NI

Cysylltwch

Cysylltwch â ni heddiw i drafod anghenion eich busnes a sut gall Barcleys eich cefnogi.

*Ffynhonnell: YouGov ‘News UK Barclays Survey’ Ebrill 2024. Arolwg meintiol ar-lein o 1000 o arweinwyr busnes yn gweithio mewn busnesau ag o leiaf 250 o weithwyr. Gweithio ym mhob rhanbarth o'r Deyrnas Unedig ac eithrio Llundain. DS Maint arolwg yng Ngogledd Iwerddon 15 busnes.

**https://labs.uk.barclays/media/l3dkzrvp/tech_in_the_uk_2023_innovation_nation_wales.pdf^

Read the full series

Your next steps

Insights

Regional Insights

Discover the latest regional insights from across Barclays Corporate Bank.

Solutions

Corporate Banking Solutions

We provide a complete spectrum of solutions to enable your business to transact and trade easily, manage risks efficiently and finance its plans for growth.

Supporting your ESG journey

Applying ESG focused strategies to your business might not be straightforward. To support businesses around the UK, we’ve partnered with SaveMoneyCutCarbon (SMCC) to provide a library of environmentally focused content to give guidance on key themes and challenges wherever you are on the ESG journey.