-
Bluestone National Park Resort

Cyrchfan Parc Cenedlaethol Bluestone: Dyfodol hollol rydd

Cymryd camau i dyfu’n fwy cynaliadwy

Fel cyrchfan wyliau moethus sy’n eiddo i deulu a gweithwyr yng nghanol Sir Benfro, de-orllewin Cymru, mae Cyrchfan Wyliau Parc Cenedlaethol Bluestone wedi bod ag ymrwymiad cryf erioed i warchod a gwella’r tir o’i amgylch – yn ogystal â dyhead i dyfu fel busnes.

Felly pan geisiodd y busnes gyllid i fuddsoddi er mwyn ehangu a dod yn fwy hunangynhaliol o ran ynni, trodd at Barclays am ateb.

Mae Parc Cenedlaethol Bluestone yn gyrchfan wyliau moethus pum seren sy’n eiddo i deulu a gweithwyr yn Sir Benfro, de-orllewin Cymru. Breuddwyd ein perchennog a’n sylfaenydd William MacNamara oedd y parc, ffermwr wrth ei alwedigaeth a dreuliodd ei blentyndod ar lannau aber yr afon Clyde gydag awydd i greu lleoliad gwyliau eiconig Gydol y Flwyddyn. Yn dilyn 14 mlynedd o gynllunio manwl a brwydr gynllunio a fyddai’n drech na'r mwyafrif, agorwyd Parc Cenedlaethol Bluestone ar Orffennaf 18fed, 2008.

Ymlaen yn gyflym i heddiw, ac mae Parc Cenedlaethol Bluestone bellach yn gyrchfan ffyniannus, yn cyflogi mwy na 850 o bobl, gyda mwy na 420 o gabanau, bythynnod a fflatiau stiwdio ar draws dros 500 erw o goetir hynafol a thir fferm.

Dyma ran fawr o'n hathroniaeth, ac roedd hyn yn rhan fawr iawn o freuddwyd William flynyddoedd lawer yn ôl. Dyma'r hyn rydyn ni'n ei alw'n ddyfodol hollol rydd. Credwn ei bod yn ddyletswydd arnom i redeg ein busnes mewn modd cynaliadwy a chyfrifol. Er enghraifft, rydym eisoes wedi lleihau ein hallyriadau cwmpas 1 neu 2  yn seiliedig ar y farchnad gan 92% drwy fentrau megis trosglwyddo ein fflyd i gerbydau trydan, symud i LPG bio a elwir yn bio propan, a newid y ffordd yr ydym yn gwasanaethu boeleri biomas, gan eu gwneud yn fwy effeithlon.

Yn ogystal, rydym yn y broses o adeiladu parc solar, a rhagwelwn y bydd yn lleihau allyriadau cwmpas tri o gwmpas dosbarthiad trydan 30% ac rydym yn archwilio'r potensial i ychwanegu tyrbinau gwynt i'r safle.

Wrth i'r byd ddechrau dod allan o Covid 19, fe wnaethom benderfynu ein bod am fuddsoddi ymhellach yn ehangu Parc Cenedlaethol Bluestone ac yn ein hawydd i fod yn fwy cynaliadwy.

Ein hysgogydd oedd cyrraedd safonau â ffocws amgylcheddol a chynaliadwyedd uchel sy'n helpu tuag at warchod a gwella'r ardal a'r gymuned leol. Fel busnes, mae gennym weledigaeth i fod yn hunangynhaliol o ran ynni ddeng mlynedd o nawr ac i fod yn sero net erbyn 2040. Felly roedd hwn yn fuddsoddiad pwysig o ran ein hymagwedd at ESG, ond roedd hefyd yn benderfyniad busnes pwysig o safbwynt cyllid.

Ein dymuniad oedd bod mewn sefyllfa i brynu llai o ynni adnewyddadwy drwy gynhyrchu mwy o’n hynni ein hunain ac rydym wedi amcangyfrif y byddai’r buddsoddiad mewn cynhyrchu ynni adnewyddadwy yn talu amdano’i hun o fewn 3 i 4 blynedd, ac yn ein galluogi'n syth i gyflenwi hyd at 30% o’n defnydd ynni blynyddol i'n galluogi i symud ymlaen. Llwyddom i sicrhau cyfleuster cyllid syndicat drwy law Barclays a Banc Datblygu Cymru.

Mae ein harbenigedd, maint a'n cyrhaeddiad o fewn y diwydiant yn ein galluogi i gefnogi ein cleientiaid gan gynnwys trawsnewid ynni a meithrin datblygiadau cymdeithasol a chynaliadwyedd yn fyd-eang. Rydym wrth ein bodd ein bod wedi gallu cefnogi Bluestone wrth i'r cwmni barhau i fuddsoddi. Dyna mewn gwirionedd oedd y cam nesaf yn ein perthynas barhaus a'n gwelodd ni'n gweithio’n agos gyda Bluestone ar sawl cam o’i esblygiad, o ddarparu ei holl wasanaethau bancio trafodion a datrysiadau adneuo i’n datrysiadau taliadau Barclaycard, yn ogystal ag ail-ariannu a nawr datrysiad cyllid cynaliadwy.

Mae gweithio gyda phartner banc fel Barclays wedi bod yn hynod fuddiol i ni fel busnes, nid yn unig o ran y buddsoddiad diweddaraf hwn ond drwy gydol ein perthynas gyfan. Wrth edrych ymlaen, mae gennym ddigon o gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer ehangu pellach, gan gynnwys buddsoddiad posibl mewn storio batris a thyrbinau gwynt i hybu ein taith gynaliadwyedd. Mae gennym ni berthynas waith wych gyda Barclays a hyderwn y byddan nhw gyda ni drwy gydol y daith honno.

Mae gweithio gyda phartner o fyd bancio fel Barclays wedi bod yn hynod fuddiol i ni fel busnes, nid yn unig o ran y buddsoddiad diweddaraf hwn, ond drwy gydol ein perthynas gyfan. Oherwydd hirhoedledd ac ehangder y berthynas honno, mae Barclays yn gallu deall ein trywydd fel busnes; i ddeall yr uchafbwyntiau a’r cyfnodau anodd y gallem eu hwynebu ar hyd y ffordd – ac i’n helpu i ymateb i’r rheini sydd â’n hamcanion tymor hwy mewn golwg.

Giles McNamara

Cyfarwyddwr Cyllid, Cyrchfan Wyliau Parc Cenedlaethol Bluestone

Sut rydym wedi cefnogi Cyrchfan Parc Cenedlaethol Bluestone

Mae Parc Cenedlaethol Bluestone yn gleient hirsefydlog i Barclays. Yn ystod perthynas ddegawd o hyd, rydym wedi cefnogi eu hehangiad drwy ariannu adeiladu cabanau newydd a’r ardal chwarae antur, y Serendome, sy’n ffefryn gan gwsmeriaid. Mae gwelliannau fel y rhain wedi cefnogi eu twf, ac maent bellach yn croesawu dros 150,000 o westeion y flwyddyn.

Drwy ein strategaeth darlun mawr, mae ein ffocws ar fod yn fwy na phartner bancio i'n cleientiaid. Gan ddefnyddio data, technoleg ac arbenigedd diwydiant rydym yn darparu mewnwelediadau blaengar, yn datgelu cyfleoedd newydd ac yn meithrin datblygiad ar gyfer ein cleientiaid. Yn achos Bluestone, roedd y dull hwn yn ein galluogi i’w cefnogi drwy’r trawsnewid ynni a chyflawni twf cymdeithasol a chynaliadwyedd.

Dyma mewn gwirionedd oedd y cam nesaf mewn perthynas barhaus sydd wedi ein gweld yn gweithio’n agos gyda Bluestone ar sawl cam o’i esblygiad – o ddarparu ei holl wasanaethau bancio trafodion a datrysiadau adneuo, i’n datrysiadau talu Barclaycard, hyd at ail-ariannu a nawr datrysiad cyllid cynaliadwy.

Simon Vittle

Cyfarwyddwr Perthynas, Bancio Corfforaethol Barclays

Pam bancio gyda ni

Rydym yn gweithio ochr yn ochr â chi

Yn Barclays, rydym yn canolbwyntio ar berthynas hirdymor sy'n helpu cleientiaid i gyflawni eu huchelgeisiau hirdymor.

Mwy na chyllid yn unig

Mae gan ein harbenigwyr diwydiant a rhanbarthol fynediad at ystod eang o fewnwelediadau blaendgar er mwyn datgelu cyfleoedd newydd i chi.

Twf cysylltiedig â chynaliadwyedd

Mae Barclays yn cynnig ystod eang o gyllid hyblyg i gefnogi cwmnïau wrth iddynt drosglwyddo i economi carbon isel.

Barclaycard

Dysgwch fwy am sut y gall datrysiadau pen-i-ben Barclaycard gefnogi eich busnes ar gyfer yfory mwy.

Cysylltwch
CYSYLLTWCH Â NI

Cysylltwch

Cysylltwch â ni heddiw i drafod anghenion eich busnes a sut gall Barcleys eich cefnogi.